Agenda - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd

Dyddiad: Dydd Iau, 23 Mawrth 2017

Rhag-cyfarfod Aelodau: 09.00 – 09.15

Amser: 09.15
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch a
:

Sian Thomas

Clerc y Pwyllgor

0300 200 6291

SeneddIechyd@cynulliad.cymru


 

Yn ei gyfarfod ar 15 Mawrth, derbyniodd y Pwyllgor gynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o eitem 1 yn y cyfarfod a gynhelir heddiw.

 

Cyfarfod preifat cyn y prif gyfarfod (09.00 - 09.15)

 

Preifat

 

1       Ymchwiliad i unigrwydd ac unigedd - diweddaru'r ymchwiliad

(09.15 - 09.30)                                                                    (Tudalennau 1 - 5)

 

Cyhoedd

 

2       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

                                                                                                                          

3       Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) - trafodion Cyfnod 2

(09.30 - 15.00)                                                                                                

Rebecca Evans AC, Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Chris Tudor-Smith, Uwch Swyddog Gyfrifol

Nia Roberts, Gwasanaethau Cyfreithiol

 

Cytunodd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar 16 Chwefror 2017 o dan Reol Sefydlog 26.21 mai dyma fydd y drefn ystyried ar gyfer trafodion Cyfnod 2:

Adran 3 i 26, Adran 2, Adran 27 i 52, Adran 54 i 91, Adran 53, Adran 92 i 124, Atodlen 1 i Atodlen 4, Adran 1, Teitl Hir.

 

Mae dogfennau sy’n berthnasol i drafodion Cyfnod 2 ar gael ar dudalen y Bil.

 

4       Papurau i’w nodi

                                                                                                                          

Llythyr gan Gymdeithas Siartredig Ffisiotherapi, Coleg Brenhinol y Therapyddion Lleferydd ac Iaith a Choleg y Therapyddion Galwedigaethol ynglŷn â strategaeth genedlaethol ddrafft Llywodraeth Cymru ar ddementia

                                                                                            (Tudalennau 6 - 9)

Llythyr gan Lynne Neagle AC at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon yn dilyn Grŵp Trawsbleidiol ar Ddementia ynglŷn â cymuned Sipsiwn, Theithwyr a Roma

                                                                                        (Tudalennau 10 - 33)

5       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

                                                                                                                          

6       Ymchwiliad i strategaeth genedlaethol ddrafft Llywodraeth Cymru ar ddementia - trafod y llythyr drafft

(15.00 - 15.15)